Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA
Teitl: Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2015;
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol ar gyfer aelodau o Gynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 ac aelodau o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 nad ydynt yn gallu parhau'n aelodau gweithredol o'r Cynlluniau hynny yn dilyn darpariaethau trosiannol Atodlen 2 i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015.
Mae'r diwygiadau i'r Atodlen yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd mewn cysylltiad ag Atodlen 7 (y cysylltiad â chyflog terfynol) i Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013.
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
[21.2(vi) ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].
1. Nid yw'r pwerau galluogi o dan adran 3 (6) a (7) o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 wedi'u disgrifio'n gywir. Dylai'r cyfeiriad cywir gyfeirio at adran 3 (5) a (6) o Ddeddf 2013.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn.
2. Mae adran 11A(4) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946, fel y'i mewnosoder gan baragraff 3 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (sy'n nodi'r rheol bod offerynnau statudol yn dod i rym o leiaf 21 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu gosod) yn cael ei dorri wrth gyflwyno'r offeryn statudol uchod.
Mewn llythyr dyddiedig 31 Mawrth 2015 at Lywydd y Cynulliad, roedd ymateb Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
"...mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud rheoliadau yn sefydlu Cynllun Pensiwn newydd ar gyfer diffoddwyr tân, o 1 Ebrill eleni. Mae'r Cynllun hwn yn wahanol mewn dau faes pwysig i’r un sydd i'w sefydlu yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw'r Rheoliadau y cyfeirir atynt yn yr ohebiaeth hon, sy'n ymdrin â throsglwyddo aelodau presennol y cynllun sydd heb eu gwarchod i Gynllun newydd ar gyfer 2015, yn dibynnu o gwbl ar drefn y Cynllun newydd hwnnw. At hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn ymdrin yn helaeth â thelerau Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992, sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cyn datganoli, ac nid oes llawer o bolisïau nac arbenigedd gyfreithiol yn bodoli yn ei gylch y tu allan i Lywodraeth y DU.
Felly, mae fersiynau terfynol yr Offerynnau a wnaed yn Lloegr wedi cael eu dyblygu, a'r unig ddiwygiadau a wnaed yng Nghymru oedd darparu testun Cymraeg, i adlewyrchu fformat OS Cymru ac i ddarparu ar gyfer proses ddrafftio sy'n niwtral o ran cenedl. Mae hyn wedi arwain at oedi mawr wrth gyflwyno'r rheoliadau gan nad oedd y rheoliadau Saesneg terfynol ar gael i Lywodraeth Cymru tan 6 Mawrth 2015. Er mwyn i'r rhain ddod i rym erbyn 1 Ebrill 2015 mae angen i ni dorri'r rheol 21 diwrnod. Pe bai’r Gorchmynion yn dod i rym ar ddyddiad hwyrach na 1 Ebrill 2015, o dan Adran 18(1) o Ddeddf 2013 byddai hyn yn golygu bod holl aelodau'r cynllun yn peidio â chronni buddiannau pensiwn yn yr hen Gynlluniau. Byddai hyn yn golygu bod angen i aelodau gael eu cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn newydd erbyn y diwrnod canlynol - gan gynnwys y rheini sydd â hawliau wedi'u hamddiffyn er mwyn aros yn eu Cynllun presennol."
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Ebrill 2015
Ymateb y Llywodraeth
Cydnabyddir y gwall. Mae’r gwall yn un technegol ei natur ac nid yw’n arwain at unrhyw broblem o ran gweithredu’r amrywiol gynlluniau pensiwn. Gwneir rheoliadau sy’n cywiro’r gwall cyn gynted ag y bo’n ymarferol.